Rhyfel Cartref Nepal

Tri gwrthryfelwr maoist yn ardal Rolpa

Dechreuwyd Rhyfel Cartref Nepal, gwrthdaro rhwng gwrthryfelwyr Maoaidd a llywodraeth Nepal, gan Blaid Gomiwnyddol Nepal (y Maoiaid) ar 13 Chwefror, 1996. Mae'r gwrthryfelwyr comiwnyddol, sy'n galw'r gwrthdaro yn "Rhyfel Gwerin Nepal" ac yn bwriadau sefydlu "Gweriniaeth Pobl Nepal", yn rheoli nifer o ardaloedd y wlad, yn arbennig yn y de a'r gorllewin.

Yn 2001, dechreuodd brenin Nepal defnyddio'r lluoedd arfog yn hytrach na'r heddlu i ymladd yn erbyn y fyddin Maoaidd. Mae mwy na 11,500 o bobl wedi cael eu ladd yn y gwrthdaro, ac amgangyfrifir fod 100,000 i 150,000 o bobl wedi'u dadleoli yn y wlad. Mae'r gwrthdaro wedi llesteirio'r rhan fwyaf o'r gwaith datblygu gwledig yn y wlad, ac wedi arwain i drawsffurfiad dwfn a chymhleth mewn cymdeithas Nepal. Ar 21 Tachwedd, 2006 arwyddwyd cadoediad gan y gwrthryfelwyr a'r llywodraeth ddemocrataidd newydd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne